Vigo

}}

Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Vigo. Saif ar lan y môr yn nhalaith Pontevedra. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 293,725, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 420,672. Y diwydiannau pwysicaf yw pysgota ac adeiladu llongau, ac mae'r tîm peldroed, Celta de Vigo, yn adnabyddus.

Adeiladwyd Vigo ar safle bryngaer (''Castro'') a thref Rufeinig; credir fod yr enw "Vigo" yn dod o'r Lladin ''Vicus''. Yn 1585 a 1589 ymosododd Francis Drake ar y ddinas a llosgi llawer o adeiladau, ac yn ddiweddarach ymosododd y Twrciaid arni. Yn 1656 adeiladwyd muriau i'w hamddiffyn. Cipiwyd y ddinas gan y Saeson yn 1719 a chan y Ffrancwyr yn 1808. Tyfodd yn gyflym yn ystod y 19g a'r 20g.

bawd|chwith|200px|Golygfa o Vigo o ben bryn y castro Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Vigo', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Foscolo, Ugo, 1778-1827
Cyhoeddwyd 1882
...Vigo...
Llyfr