Akira Kurosawa
Cyfarwyddwr ffilm o Japan oedd Akira Kurosawa (23 Mawrth 1910 – 6 Medi 1998). Bu'n cyfarwyddo ffilmiau am 50 mlynedd, o ''Sanshiro Sugata'' yn 1943 hyd ''Madadayo'' yn 1993.Ganed Kurosawa yn Tokyo, yn fab i brifathro ysgol. Yn 1936 cafodd le ar raglen brentisiaeth i gyfarwyddwyr ffilmiau gan stiwdio PCL (Toho yn ddiweddarach). Daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol pan enillodd ei ffilm ''Rashomon'' y Llew Aur yng Ngŵyl Ffilm Fenis. Mae hefyd wedi ennill y ''Palme d'Or'' yng Ngŵyl Ffilm Cannes am ''Kagemusha'' a gwobrau Oscar. Dyfarnwyd y Légion d'honneur iddo yn 1984.
Yr enwocaf o'i ffilmiau yw ''Saith Samurai'', sydd wedi ei hefelychu nifer o weithiau yn y gorllewin, er enghraifft ''The Magnificent Seven'' (1960) ac yn India. Efelychwyd ei ffilm ''Yojimbo'' fel ''A Fistful of Dollars''.
Roedd nifer o'i ffilmiau yn serennu'r actorion Japaneaidd Toshirō Mifune (yn cynnwys ''Yojimbo'') a Takashi Shimura (yn cynnwys ''Ikiru''). Ymddangosodd y ddau gyda'i gilydd yn ''Rashomon'', ''Saith Samurai'', a nifer o ffilmiau eraill Kurosawa. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Kurosawa, Akira, 1910-1998.
Cyhoeddwyd 1990
Awduron Eraill:
“...Kurosawa, Akira, 1910-1998....”Cyhoeddwyd 1990
Llyfr
2
gan Kurosawa, Akira, 1910-1998.
Cyhoeddwyd 1990
Awduron Eraill:
“...Kurosawa, Akira, 1910-1998....”Cyhoeddwyd 1990
Llyfr