Christopher Wren
Pensaer o Loegr oedd Syr Christopher Wren (20 Hydref 1632 – 25 Chwefror 1723). Ei waith enwocaf yw Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain. Cynlluniodd oddeutu 52 o eglwysi yn Ninas Llundain yn dilyn Tân Mawr Llundain yn 1666, a chaiff ei gyfrif ymhlith pensaeri mwyaf Lloegr.Ystyrir y Coleg Morwrol Brenhinol, Greenwich hefyd ymhlith ei waith enwocaf a Phalas Hampton Court.
Fe'i traethwyd mewn Lladin a gwaith Aristoteles ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd hefyd anatomeg, seryddiaeth, mathemateg ac, wrth gwrs, pensaernïaeth. Canmolwyd ei waith gwyddonol gan Isaac Newton a Blaise Pascal. Darparwyd gan Wikipedia
1