William Wilberforce

Roedd yn fab i fasnachwr cyfoethog. Cafodd ei eni yn Hull yn 1759. Yn 17 oed aeth Wilberforce i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Daeth yn ffrind i William Pitt, a ddaeth yn ddiweddarach yn brif weinidog ifancaf Prydain erioed.
Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol yn 1780, gan ddod yn Aelod Seneddol annibynnol dros Gaerefrog (1784-1812). Yn 1785 cafodd dröedigaeth grefyddol a arweiniodd at newidiadau mawr yn ei ffordd o fyw a chreu angerdd gydol oes ynddo tuag at ddiwygio. Yn 1787, daeth i gysylltiad â Thomas Clarkson a grŵp o ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth - yn eu plith, Granville Sharp, Hannah More a Syr William a’r Arglwyddes Middleton. Perswadiwyd ef ganddynt i geisio defnyddio ei ddylanwad fel aelod seneddol i roi terfyn ar y fasnach mewn caethweision, ac yn ystod yr ugain mlynedd ddilynol arweiniodd ymgyrch y Diddymwyr yn y Senedd. Yn 1807 llwyddodd i gael y Senedd i basio deddf a oedd yn rhoi diwedd ar y fasnach.
Hyrwyddodd nifer o achosion yn ystod ei fywyd - er enghraifft, Cymdeithas er mwyn Atal Llygredd a Drygioni (''Society for the Suppression of Vice''), gwaith cenhadol yn India, sefydlu trefedigaeth rydd yn Sierra Leone, sefydlu Cymdeithas Genhadu'r Eglwys a’r Gymdeithas yn erbyn Creulondeb i Anifeiliaid. Arweiniodd ei agwedd geidwadol tuag gefnogi deddfwriaeth ddadleuol ym meysydd gwleidyddol a chymdeithasol ato'n cael ei feirniadu am anwybyddu anghyfiawnderau ym Mhrydain. Parhaodd i gefnogi diddymiad llwyr caethwasiaeth hyd yn oed pan oedd ei iechyd yn gwaethygu ar ôl 1826. Yn 1833 pasiwyd Deddf Diddymu Caethwasiaeth a wnaeth ddiddymu caethwasiaeth ar draws y rhan helaethaf o Ymerodraeth Prydain. Claddwyd ef yn Abaty Westminster, yn agos i’w ffrind, William Pitt yr Ieuengaf.
Mae Ioan Gruffudd yn chwarae rhan Wilberforce yn y ffilm Amazing Grace (2006). Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Wilberforce, William, 1759-1833
Cyhoeddwyd 1841
Awduron Eraill:
“...Wilberforce, William, 1759-1833...”Cyhoeddwyd 1841
Πρόσβαση στο ψηφιακό αρχείο
Llyfr
2
gan Wilberforce, William, 1759-1833
Cyhoeddwyd 1841
Awduron Eraill:
“...Wilberforce, William, 1759-1833...”Cyhoeddwyd 1841
Πρόσβαση στο ψηφιακό αρχείο
Llyfr