Fay Weldon
Awdures a dramodydd o Loegr oedd Fay Weldon CBE, FRSL (ganwyd Franklin Birkinshaw; 22 Medi 1931 – 4 Ionawr 2023), sy'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau, yn cynnwys ''Puffball'' (1980) a ''The Life and Loves of a She-Devil'' (1983).Ganed Weldon Franklin Birkinshaw yn Birmingham, Lloegr. Roedd ei taid Edgar Jepson (1863-1938), ei hewythr Selwyn Jepson a'i mam Margaret Jepson yn awduron.
Cafodd Weldon ei magu yn Christchurch, Seland Newydd, lle bu ei thad, Frank Thornton Birkinshaw, yn gweithio fel meddyg. Ym 1936, pan oedd hi'n bump oed, cytunodd ei rhieni i wahanu. Treuliodd hi a'i chwaer Jane yr hafau gyda'i thad. Mynychodd Ysgol Uwchradd Merched Christchurch am ddwy flynedd o 1944. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5