Max von Sydow

Actor o Sweden oedd Max von Sydow (Carl Adolf von Sydow; 10 Ebrill 19298 Mawrth 2020).

Ganed Carl Adolf Von Sydow yn Lund, Skåne, yn ne Sweden. Ethnolegydd ac astudiwr llên gwerin ym Mhrifysgol Lund oedd ei dad, yr Athro Carl Wilhelm, ac athrawes ysgol oedd ei fam, Maria Margareta Lund (Rappe gynt). Mynychodd Carl yr ysgol Gatholig cyn iddo gyflawni ei wasanaeth milwrol. Astudiodd yn ysgol actio y Theatr Ddramataidd Frenhinol yn Stockholm o 1948 i 1951. Tra oedd yn fyfyriwr, ymddangosodd mewn dwy ffilm a gyfarwyddwyd gan Alf Sjöberg: ''Bara en mor'' (1949) a ''Fröken Julie'' (1951). Priododd Max von Sydow â Christina Olin yn 1951, a chawsant ddau fab, Henrik a Clas, cyn iddynt ysgaru yn 1979.

Wedi iddo raddio o'r Theatr Ddramataidd Frenhinol, ymunodd Von Sydow â'r theatr ddinesig yn Helsingborg. Yn ddiweddarach symudodd i theatr ddinesig Malmö ac yno cyfarfu â Ingmar Bergman, a fu'n ei gyfarwyddo mewn cynyrchiadau o ''Cat on a Hot Tin Roof'' gan Tennessee Williams, ''Peer Gynt'' gan Henrik Ibsen, ''Le Misanthrope'' gan Molière, ac ''Urfaust'' gan Goethe yn y cyfnod 1956–58. Ymddangosodd Von Sydow mewn 11 o ffilmiau Bergman, yn gyntaf yn portreadu'r marchog Antonius Block yn ''Det sjunde inseglet'' (1957). Ystyrir y ffilm honno yn un o glasuron y sinema, ac mae'r gêm gwyddbwyll rhwng Block â'r Angau (Bengt Ekerot) yn un o'r golygfeydd mwyaf eiconaidd yn hanes ffilm. Cafodd rannau cefnogol yn ''Smultronstället'' (1957) a ''Nära livet'' (1958), a'r brif ran yn ''Ansiktet'' (1958) ac yn ''Jungfrukällan'' (1960).

Ymddangosodd Von Sydow yn ei ffilm gyntaf y tu allan i Sweden yn portreadu Iesu Grist yn ''The Greatest Story Ever Told'' (1965). Chwaraeodd offeiriad yn ''The Exorcist'' (1973), un o'r ffilmiau iasoer enwocaf erioed, a'r dilyniant ''Exorcist II: The Heretic'' (1977). Cafodd ei glodfori am sawl rôl sobor a chymhleth, yn eu plith ymfudwr o Småland i Minnesota yn ''Utvandrarna'' (1971) a ''Nybyggarna'' (1972), a'r prif gymeriad yn ''Steppenwolf'' (1974; addasiad o'r nofel gan Herman Hesse). Bu Von Sydow hefyd yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd o chwarae dynion drwg a chymeriadau cefnogol eraill mewn ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ming the Merciless yn ''Flash Gordon'' (1980), Osric yn ''Conan the Barbarian'' (1982), a Blofeld yn ''Never Say Never Again'' (1983). Dychwelodd i'r llwyfan yn 1988 i bortreadu Prospero yn ''The Tempest'', un o ddramâu Shakespeare, yn theatr yr Old Vic dan gyfarwyddiaeth Jonathan Miller.

Priododd Max von Sydow â'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Catherine Brelet yn 1997, ac ymsefydlodd ym Mharis. Cawsant ddau fab, Cédric ac Yvan. Derbyniodd Von Sydow ddinasyddiaeth Ffrengig yn 2002. Parhaodd i actio mewn ffilmiau yn ei henoed, yn aml mewn rhannau bychain cofiadwy, er enghraifft yn ''Minority Report'' (2002) a ''Star Wars: The Force Awakens'' (2015). Ymddangosodd o bryd i'w gilydd mewn rhaglenni teledu, ac un o'i rannau nodedig yn niwedd ei oes oedd y Gigfran Drilygad yn chweched gyfres (2016) ''Game of Thrones''. Bu farw ym Mhrofens yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Sydow, Max von, 1929-', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 2008
Awduron Eraill: ...Sydow, Max von, 1929-...
Meddalwedd eLyfr