Joseph Stiglitz
Economegydd ac academydd Americanaidd yw Joseph Eugene Stiglitz (ganwyd 9 Chwefror 1943). Enillodd Stiglitz Wobr Economeg Nobel, ar y cyd ag A. Michael Spence a George A. Akerlof, yn 2001 "am eu dadansoddiadau o farchnadau gyda gwybodaeth anghymesur".Ganed yn Gary, Indiana, Unol Daleithiau America, i deulu o Americanwyr Iddewig. Derbyniodd ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1964 a'i ddoethuriaeth o Sefydliad Technoleg Massachusetts ym 1967. Addysgodd mewn sawl prifysgol o fri, gan gynnwys Yale, Harvard, a Stanford. Bu'n un o brif gynghorwyr polisi economaidd yr Arlywydd Bill Clinton, yn aelod (ac o 1995 yn gadeirydd) o Gyngor Cynghorwyr Economaidd yr Unol Daleithiau o 1993 i 1997, ac yn brif is-lywydd a phrif economegydd Banc y Byd o 1997 i 2000. Fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Columbia yn 2000. Gwasanaethodd yn llywydd ar y Gymdeithas Economaidd Ryngwladol o 2011 i 2014.
Ymhlith ei lyfrau mae ''Globalization and Its Discontents'' (2002), ''The Roaring Nineties'' (2003), ''The Price of Inequality'' (2012), ''The Euro'' (2016), a ''People, Power, and Profits'' (2019). Darparwyd gan Wikipedia
1