George Steiner

Beirniad llenyddol, ysgrifwr, academydd, a nofelydd Americanaidd o dras Awstriaidd-Iddewig, a gafodd ei eni a'i fagu yn Ffrainc, oedd Francis George Steiner (23 Ebrill 19293 Chwefror 2020). Mae ei waith yn ymdrin â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a chymdeithas, iaith ac ieithyddiaeth, athroniaeth, ac hanes modern. Oherwydd ei feistrolaeth ar feysydd eang o wybodaeth, fe'i gelwir yn aml yn bolymath. Roedd ganddo werthfawrogiad traddodiadgarol o ganon y Gorllewin a bu'n lladd ar ddamcaniaethau beirniadol megis y Feirniadaeth Newydd, ôl-adeileddaeth, a dadadeiladaeth. Yn ogystal â'i gyfrolau academaidd, astudiaethau llenyddol, a chasgliadau o ysgrifau, cyhoeddodd Steiner un nofel fer a thair chyfrol o straeon byrion.

Ganed Francis George Steiner ym Mharis ar 23 Ebrill 1929. Iddewon a ymfudasant o Fienna yn 1924 oedd ei rieni, Elsie Steiner, Franzos gynt, a'r banciwr buddsoddiadau Frederick George Steiner o Awstria. Yn ôl ei hunangofiant ''Errata'', cafodd genedigaeth George Steiner ei chynorthwyo gan Carl Weiss, yr un meddyg a saethodd y gwleidydd Americanaidd Huey Long yn 1935.

Cafodd ei fagu'n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, a Saesneg. Symudodd gyda'i deulu i Unol Daleithiau America yn 1940 ychydig wythnosau cyn cwymp Ffrainc. Yn Efrog Newydd, mynychodd George y Lycée Français. Cafodd ei wneud yn ddinesydd Americanaidd yn 1944, ac enillodd ei fagloriaeth Ffrengig (''le baccalauréat'') yn 1947. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Chicago yn 1948 a'i radd meistr o Harvard yn 1950. Enillodd Ysgoloriaeth Rhodes i Goleg Balliol, Rhydychen. Gwrthodwyd cyflwyniad cyntaf ei ddoethuriaeth yno.

Treuliodd ei yrfa yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Bu'n aelod o staff golygyddol ''The Economist'' o 1952 i 1956, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen o'r diwedd yn 1955. Gweithiodd yn Sefydliad Uwchefrydiau Prifysgol Princeton o 1956 i 1958, a fe'i penodwyd yn ddarlithydd Christian Gauss yn Princeton o 1959 i 1960. Addysgodd yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, Prifysgol Genefa, ac Harvard. Steiner oedd uwch-olygydd llyfrau ''The New Yorker'' o 1966 i 1997. Yn 1981 cyhoeddwyd ei nofel fer ''The Portage to San Cristóbal of A.H.'', stori sydd yn dychmygu bywyd Adolf Hitler wedi iddo oroesi'r Ail Ryfel Byd.

Priododd George Steiner â Zara Alice Shakow yn 1955, a chawsant un mab, David, ac un ferch, Deborah. Bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Steiner, George, 1929-2020', amser ymholiad: 0.28e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 1988
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
2
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 2009
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
3
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 2007
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
4
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 1970
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
5
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 2011
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
6
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 2002
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr
7
gan Steiner, George, 1929-2020
Cyhoeddwyd 1997
Awduron Eraill: ...Steiner, George, 1929-2020...
Llyfr