Henry Morton Stanley

fix-attempted=yes }} o Henry Morton Stanley yn yr 1870au |dateformat=dmy }}

Newyddiadurwr, fforiwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd a ddaeth yn adnabyddus am fforio yng nghanol Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (ganwyd John Rowlands) (28 Ionawr 184110 Mai 1904).

Daeth i sylw’r cyhoedd oherwydd ei ymgyrch i chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr David Livingstone, a honnodd yn ddiweddarach iddo ei gyfarch â'r llinell sydd bellach yn enwog: "''Dr Livingstone, I presume?''" Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ymgyrch i ddarganfod tarddiad Afon Nîl, gwaith a ymgymerodd fel asiant i'r Brenin Leopold II o Wlad Belg. Galluogodd hyn i ranbarth Basn Congo gael ei feddiannu, ac i Stanley arwain Alldaith Rhyddhad Emin Pasha. Yn 1871 sefydlwyd pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin i ymchwilio i ymddygiad Stanley yn Affrica. Cafodd ei gyhuddo o drais gormodol, dinistrio diangen, gwerthu llafurwyr i gaethwasiaeth, camfanteisio rhywiol ar ferched brodorol ac ysbeilio pentrefi am ifori a chanŵau. Yn seiliedig ar gofnodion a chyfrifon eraill, mae rhai haneswyr yn awgrymu bod llawer o'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan elyn hysbys i Stanley, wedi ei ffugio'n bennaf. Fodd bynnag, roedd Stanley yn sicr yn cysylltu ei hun â masnachwyr caethweision tra'r oedd yn Affrica, ac yn ei ysgrifau ei hun mae'n aml yn mynegi barn hiliol. Cyhuddwyd Stanley hefyd o greulondeb diwahân yn erbyn Affricaniaid gan gyfoeswyr, a oedd yn cynnwys dynion a wasanaethodd oddi tano neu a oedd fel arall yn meddu ar wybodaeth uniongyrchol. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1899. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Stanley, Henry Morton, 1841-1904', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Awduron Eraill: ...Stanley, Henry Morton, 1841-1904...
Πρόσβαση στο ψηφιακό αρχείο
Llyfr