Johanna Spyri

Awdures straeon i blant yn yr iaith Almaeneg sy'n adnabyddus fel awdures y clasur poblogaidd ''Heidi'' oedd Johanna Spyri (enw bedydd, Johanna Louise Heusser: 12 Mehefin, 1827, Hirzel, Y Swistir - 7 Gorffennaf, 1901, Zürich).

Yn ystod ei phlentyndod ymwelodd sawl gwaith yn yr haf â'r ardal o gwmpas Chur yn Graubünden, Y Swistir, a byddai'r ardal hon yn yr Alpau yn gefndir i'w gwaith llenyddol. Yn 1852, priododd Johanna Heusser y cyfreithiwr Bernhard Spyri ac aethant i fyw yn Zürich. Dechreuodd lunio straeon am fywyd yng nghefn gwlad y Swistir. Yn 1872 cyhoeddodd ''Heidi'', hanes geneth amddifad sy'n byw efo'i thaid yn yr Alpau; mae'n llyfr sy'n enwog nid yn unig am ei ddisgrifiadau cofiadwy o fywyd gwerin y mynyddoedd ond am allu'r awdures i fynegi teimladau a safbwynt plant.

Bu farw ei gŵr a'i hunig fab yn 1884. Ymrododd Spyri i waith elusennol a pharhaodd i sgwennu gan gyhoeddi dros hanner cant o straeon arall cyn ei marw yn 1901. Daeth Spyri yn eicon cenedlaethol yn y Swistir. Cyhoeddwyd stamp gyda'i phortread arno yn 1951 a darn arian 20 Franc er ei anrhydedd yn 2001. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8 ar gyfer chwilio 'Spyri, Johanna, 1827-1901.', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Llyfr
2
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 1985
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
3
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 1941
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
4
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 2016
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
5
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 1937
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
6
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 2009
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
7
gan Spyri, Johanna, 1827-1901
Cyhoeddwyd 1995
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr
8
Awduron Eraill: ...Spyri, Johanna, 1827-1901...
Llyfr