Steven Spielberg
Cyfarwyddwr Ffilm yw Steven Allen Spielberg KBE (ganwyd 18 Rhagfyr 1946, Cincinnati, Ohio, UDA). Yn 2006, rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn ''Time'' ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr 20g, cafodd ei enwi gan gylchgrawn ''Time'' fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau gwyddonias ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion Hollywood. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel yr holocost, caethwasiaeth, rhyfel a therfysgaeth.Enillodd Spielberg Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau am ''Schindler's List'' (1993) a ''Saving Private Ryan'' (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef ''Jaws'' (1975), ''E.T. the Extra-Terrestrial'' (1982), a ''Jurassic Park'' (1993). Darparwyd gan Wikipedia
1
2
Cyhoeddwyd 2009
Awduron Eraill:
“...Spielberg, Steven...”
Meddalwedd
eLyfr
3