Kathrin Schmidt
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Almaen yw Kathrin Schmidt (ganwyd 12 Mawrth 1958) sy'n seicotherapydd plant a phobl ifanc, gwyddonydd cymdeithasol a bardd. Fe'i ganed yn Gotha, Thuringia, 5ed dinas fwyaf yr Almaen ond symudodd y teulu yn 1964 i Waltershausen.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Jena a Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen lle bu'n astudio seicotherapi rhwng 1976 a 1981. Cafodd waith fel ymchwilydd mewn labordy ym Mhrifysgol Leipzig rhwng 1981 ac 1982 ac yna fel seicolegydd plant yn Ysbyty Rüdersdorf.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: * ''Du stirbst nicht'' (Ni fyddi Farw), Kiepenheuer & Witsch, Köln 2009.
O 1986 i 1987 cwblhaodd astudiaeth arbennig yn y sefydliad llenyddol "Johannes R. Becher" yn Leipzig. Rhwng 1990/1991 bu'n olygydd cylchgrawn merched ffeministaidd ''Ypsilon'' ac yn gweithio tan 1993 fel cysylltydd ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol Gymharol Berlin. Ers 1994 mae'n awdur llawrydd a yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen. Darparwyd gan Wikipedia
1