Joseph Justus Scaliger
Ieithegwr ac hanesydd o Ffrainc oedd Joseph Justus Scaliger (5 Awst 1540 – 21 Ionawr 1609) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau arloesol at amseryddiaeth.Ganed ef yn Agen, tref ar lan Afon Garonne, yn Nheyrnas Ffrainc, yn ddegfed plentyn i'r meddyg ac athronydd Eidalaidd Julius Caesar Scaliger, a'i wraig o Ffrances. Derbyniodd elfennau cyntaf ei addysg gan ei dad. Pan yn 11 oed anfonwyd ef, ynghyd â'i ddau frawd, i Goleg Bordeaux, lle y llafuriodd yn bennaf i ddysgu'r iaith Ladin. Torrodd pla allan yn y dref, a dychwelodd yntau adref i Agen. Cymerodd ei dad eilwaith ofal ei addysg, a gorfododd ef i ysgrifennu traethawd Lladin ar ryw fater hanesyddol bob dydd, a thrwy'r ymarferiad hwn daeth y dyn ieuanc yn berffaith gyfarwydd â'r iaith honno. Weithiau, gosodai ei dad ef ar waith i ysgrifennu rhai o'i gyfansoddiadau barddonol ef ei hun, yr hyn a fu yn foddion i greu yn y bachgen hoffter at farddoniaeth; a chyn bod yn 16 oed gwnaeth gais i gyfansoddi treisgan ar stori'r Brenin Oedipus. Pan oedd yn 19 oed, bu farw ei dad, ac wedi hynny aeth yntau i Baris, lle yr ymroddodd i astudio'r iaith Roeg. Ar y cyntaf, aeth i wrando ar ddarlithiau'r clasurydd Adrianus Turnebus, ond pan y deallodd y gallai wneuthur mwy o gynnydd wrth astudio wrtho'i hun, cyfyngodd ei hun i'w ystafell, a dechreuodd ddarllen yr awduron Groegaidd. Dechreuodd gyda Homeros, ac mewn dwy flynedd, y rhai a dreuliwyd ganddo mewn neilltuaeth fawr, yr oedd wedi darllen ymron yr holl feirdd a rhyddieithwyr Groegaidd enwog. Yna fe drodd ei sylw at ieithoedd dwyreiniol, y rhai hefyd a ddysgwyd ganddo wrtho'i hun: yr Hebraeg, y Syrieg, a'r Berseg. Daeth yn fuan i allu ymffrostio y medrai siarad 13 o ieithoedd, hen a diweddar, a'r fath oedd ei ymroddiad i'w efrydiau y pryd hwn fel nad oedd yn caniatáu iddo'i hun ond ychydig o oriau i gysgu bob nos, a byddai am ddyddiau yn olynol yn eistedd i ddarllen, heb o'r bron gymryd amser i fwyta.
Nid oes ond ychydig iawn yn wybyddus am ddigwyddiadau bywyd Scaliger o'r blynyddoedd 1565 hyd 1593, ond iddo fod yn teithio cryn lawer, ac yn ymweld â phrifysgolion Ffrainc, yr Almaen, a'r Alban. Tybir iddo deithio yn yr Eidal hefyd. Yn ystod yr amser hwn y gadawodd efe Eglwys Rhufain, ac y daeth i broffesu Protestaniaeth, yr hyn, debygid, oedd y rheswm na chafodd efe un swydd gyhoeddus yn Ffrainc. Ym 1593, gwahoddwyd ef i gymryd cadair ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Leiden, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Yr oedd efe yn un o'r amryw o ddysgedigion mawrion a ystyrir hyd heddiw yn brif addurniadau Prifysgol Leiden, ac ymhlith ei ddisgyblion yr oedd ei gyfaill Hugo Grotius. Nid llawer o ddigwyddiadau cyffrous y gwyddys amdanynt mewn cysylltiad â'i fywyd yn Holand. Yn wir, ymddengys ei fod wedi ei lyncu i fyny gan ei efrydiau, fel nad oedd yn talu ond ychydig iawn o sylw i achosion bywyd cyffredin, a threuliai lawer o ddyddiau yn ei fyfyrgell, heb o'r bron feddwl am gymryd lluniaeth, a dywedir ei fod weithiau yn hynod o dlawd. Cynigiodd amryw bersonau o radd uchel, y rhai a edmygent ei dalent a'i ddysg, ei gynorthwyo yn ei amgylchiadau cyfyng, ond yr oedd yn rhy falch i dderbyn unrhyw rodd. Ni bu erioed yn briod. Ymddengys ei fod yn debyg o ran ei gymeriad i'w dad, oherwydd yr oedd yn hynod falch, ac fel yntau, efe a ymddygai tuag at ei wrthwynebwyr llenyddol gyda dirmyg. Bu farw Scaliger o'r dyfrglwyf yn Leiden yn 68 oed.
Fel beirniad, saif yn uchel iawn, ac ychydig ydyw nifer y dysgedigion y gellir eu cymharu ag ef. Y mae rhai o'i ysgrifeniadau hyd heddiw yn cynhyrchu syndod ac edmygedd ar gyfrif y ddysgeidiaeth anarferol a amlygir ynddynt, wedi ei uno â synnwyr a chraffter digymar ymron. Er ei fod yn ei feirniadaeth ar eiriau, ac yn ei welliadau a'i ddyfaliadau,, yn fynych yn rhy eofn a mympwyol, eto y mae'r oll a wnaeth yn dwyn argraff ei athrylith fawr, ac nid yn fynych y gwna ei hun yn agored i'r cyhuddiad o anghywirdeb. Y pennaf o weithiau Scaliger ydyw ei '''De Emendatione Temporum'', yr hwn sydd yn cynnwys cyfundrefn o amseryddiaeth wedi ei threfnu ar egwyddorion sefydlog, a enillodd y gwaith hwn iddo y teitl o dad y wyddor o amseryddiaeth. Rhifai ymysg ei gyfeillion ddysgedigion pennaf ei ddydd, megis Lipsius, Isaac Casaubon, Grotius, Heinsius, Claude a Pierre Dupuy, Saumaise, Vossius, Velser, a Pierre Pithou. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
gan Δαβίδ (Βιβλικό πρόσωπο)
Cyhoeddwyd 1638
Awduron Eraill:
“...Scaliger, Joseph Justus, 1540-1609...”Cyhoeddwyd 1638
Πρόσβαση στο ψηφιακό αρχείο
Llyfr