Siegfried Sassoon
Bardd a nofelydd o Loegr oedd Siegfried Loraine Sassoon, CBE (8 Medi 1886 – 1 Medi 1967).Cafodd ei eni ym Matfield, Caint, yn fab i'r cerddor Alfred Ezra Sassoon a'r cerflunydd Theresa (nee Thornycroft). Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Priododd Hester Gatty yn 1933. Bu farw ei fab, George Sassoon, yn 2006.
Roedd yn ffrind i'r beirdd Robert Graves, Wilfred Owen ac Edmund Blunden. Enillodd y Wobr James Tait Black am ei lyfr ''Memoirs of a Fox-Hunting Man'' ym 1928.
Ystyrir ei soned ''At the Grave of Henry Vaughan'' yn Awst 1924 yn un o'r cerddi gorau a ysgrifennodd wedi'r Rhyfel Mawr, ac yn sicr, un o'i gerddi mwyaf poblogaidd. Darparwyd gan Wikipedia
1