Gianni Rodari
Awdur a newyddiadurwr o'r Eidal oedd Gianni Rodari (23 Hydref 1920 – 14 Ebrill 1980) sydd yn nodedig am ei lyfrau ffantasi i blant, gan gynnwys ''Il romanzo di Cipollino'' (1951).Ganed yn Omegna yn nhalaith Verbano-Cusio-Ossola, Piemonte, yng ngogledd yr Eidal. Pobydd oedd ei dad. Derbyniodd dystysgrif addysgu ym 1938 yn Varese a gweithiodd hyd 1943 fel athro mewn ysgol gynradd. Yn y cyfnod hwn, arbrofai â thechnegau barddonol gyda'i ddisgyblion. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymaelododd â'r Blaid Ffasgaidd cyn troi at y Comiwnyddion ym 1944. Penodwyd yn olygydd ar gylchgrawn y Blaid Gomiwnyddol, ''Ordine nuovo''. Bu'n ohebydd i'r papur newydd comiwnyddol ''L'Unità'', ac yn ei ysgrifeniadau darparai ddeunydd i blant a oedd yn arbrofi â ffurf ac iaith. Gweithiodd yn gyfarwyddwr i Il Pioniere, sefydliad ar gyfer plant o deuluoedd adain-chwith, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn i blant ''Il Pioniere'' o 1950 i 1953 a'r cylchgrawn i rieni ''Il Giornale dei genitori'' o 1968 i 1977. Ym 1958 dechreuodd olygu'r papur newydd dyddiol ''Paese Sera'', a chyfrannodd nifer fawr o erthyglau ei hun ar bynciau diwylliant, addysg a seicoleg yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau plant i'r cyhoeddiad hwnnw.
Trwy gydol ei yrfa, cyhoeddodd Rodari ryw 25 o lyfrau i blant, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth. Bu nifer o'r rheiny yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd ganddo mewn cylchgronau a phapurau newydd ers tro. Priodolir iddo gyflwyno cerddi dwli i farddoniaeth plant Eidaleg, dan ddylanwad awduron swrealaidd Ffrangeg a thraddodiad llên ddwli Lloegr. Enillodd sawl gwobr lenyddol yn yr Eidal am ei waith, gan gynnwys y Premio Prato ym 1960 am y casgliad o rigymau ''Filastrocche in cielo e in terra'' (1960), y Premio Castello ym 1963 am ''Gip nel televisore'' (1962), y Premio Europa Dralon ym 1967 a'r Premio Castello ym 1968 am ''La torta in cielo'' (1966), a'r Premio Rubino ym 1968 am ''Il libro degli errori'' (1964).
Enillodd Rodari Wobr Hans Christian Andersen am Ysgrifennu ym 1970, y wobr lenyddol uchaf ei bri ar gyfer llenyddiaeth plant. Yn y gyfrol ''Grammatica della fantasia'' (1973), esbonia Rodari ei ddulliau o gyfuno'r dychymyg a digrifwch â'i amcan i addysgu plant. Bu farw yn Rhufain yn 59 oed. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd y gyfrol o'i newyddiaduraeth ''Il cane di Magonza'' (1982). Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2003
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2003
Llyfr
2
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2001
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2001
Llyfr
3
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2003
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2003
Llyfr
4
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2003
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2003
Llyfr
5
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2007
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2007
Llyfr
6
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1978
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1978
Llyfr
7
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1980
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1980
Llyfr
8
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1998
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1998
Llyfr
9
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2011
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2011
Llyfr
10
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1999
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1999
Llyfr
11
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1981
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1981
Llyfr
12
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2019
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980....”Cyhoeddwyd 2019
Llyfr
13
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1981
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1981
Llyfr
14
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2012
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2012
Llyfr
15
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 1986
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 1986
Llyfr
16
gan Rodari, Gianni, 1920-1980
Cyhoeddwyd 2011
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”Cyhoeddwyd 2011
Llyfr
17
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980...”
Llyfr
18
gan Γρηγοράκης, Νίκος 1944-
Cyhoeddwyd 2014
Awduron Eraill:
“...Rodari, Gianni, 1920-1980....”Cyhoeddwyd 2014
Llyfr