Herbert Read

Hanesydd celf, bardd, beirniad llenyddol ac athronydd o Sais oedd Syr Herbert Edward Read (4 Rhagfyr 189312 Mehefin 1968). Mae'n fwyaf adnabyddus am nifer o lyfrau celf, a oedd yn cynnwys cyfrolau dylanwadol ar rôl celf mewn addysg. Roedd yn un o awduron cynharaf Lloegr i roi sylw i ddirfodaeth. Roedd yn anarchaidd blaenllaw yn Lloegr, ac roedd yn gyd-sylfaenydd Institute of Contemporary Arts yn Llundain.

Roedd Herbert Read yn fab i ffermwr yn Swydd Efrog. Terfynwyd ei astudiaethau ym Mhrifysgol Leeds pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd fel swyddog gyda'r Green Howards yn Ffrainc, a chyhoeddodd farddoniaeth am ei brofiadau yn y ffosydd.

Roedd yn guradur yn yr adran cerameg yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain, rhwng 1922 a 1933; yn ddiweddarach bu'n dysgu ym Mhrifysgolion Caeredin, Lerpwl a Llundain. Rhwng 1933 a 1939 roedd yn olygydd y ''Burlington Magazine''.

Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys ''The Meaning of Art'' (1931), ''Art and Society'' (1937), ''Education through Art'' (1943), ac ''Icon and Idea'' (1955).

Enillodd Wobr Erasmus ym 1966. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Read, Herbert 1893-1968', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Read, Herbert 1893-1968
Cyhoeddwyd 1979
Awduron Eraill: ...Read, Herbert 1893-1968...
Llyfr
2
gan Read, Herbert 1893-1968
Cyhoeddwyd 1969
Awduron Eraill: ...Read, Herbert 1893-1968...
Llyfr
3
gan Read, Herbert 1893-1968
Cyhoeddwyd 1971
Awduron Eraill: ...Read, Herbert 1893-1968...
Llyfr
4
Cyhoeddwyd 1965
Awduron Eraill: ...Read, Herbert 1893-1968...
Llyfr