Joan Plowright
Actores o Loegr oedd Joan Ann Olivier neu Joan Plowright (28 Hydref 1929 – 16 Ionawr 2025). Estynodd ei gyrfa dros 60 mlynedd yn y byd theatr, ffilm a theledu. Fe'i henwebwyd ar gyfer Oscar am ei rhan yn y ffilm ''Enchanted April''.Cafodd Joan Plowright ei geni yn Brigg, Swydd Lincoln, yn ferch i Daisy Margaret (née Burton) a William Ernest Plowright; roedd William yn newyddiadurwr a golygydd. Mynychodd Ysgol Rhamadeg Scunthorpe. ac wedyn yr Ysgol Theatr Old Vic Bryste. Ym 1957, bu'n cyd-serennu gyda Syr Laurence Olivier yn y cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol yn Llundain o ''The Entertainer'' gan John Osborne.
Priododd Olivier ym 1961, a daeth i gysylltiad agos â'i waith yn y Theatr Genedlaethol o 1963 ymlaen. Ymddeolodd o'r llwyfan yn 2014 a bu farw yn 95 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia
1