Brad Pitt
bawd|Brad Pitt yn arwyddo llofnodion i filwyr ym Maes Awyr İncirlik, Twrci, 7 Rhagfyr 2006 bawd|Brad Pitt yn 2007Actor a chynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.
Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm ''Thelma & Louise'' (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm ''Interview with the Vampire'' (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol ''Se7en'' a'r ffilm wyddonias ''Twelve Monkeys''. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm ''Fight Club'' (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd ''Ocean's Eleven'' (2001), ''Spy Game'' (2001), ''Troy'' (2004), y comedi antur ''Mr. & Mrs. Smith'' (2005), a ''Burn After Reading'' (2008). Darparwyd gan Wikipedia
1
Cyhoeddwyd 2001
Awduron Eraill:
“...Pitt, Brad, 1963-...”
Meddalwedd
eLyfr
2
Cyhoeddwyd 1994
Awduron Eraill:
“...Pitt, Brad, 1963-...”
Meddalwedd
eLyfr
3
Cyhoeddwyd 2001
Awduron Eraill:
“...Pitt, Brad, 1963-...”
Meddalwedd
eLyfr