John Pilger
Gohebydd a gwneuthurwr ffilm ddogfen o Awstralia oedd John Pilger (9 Hydref 1939 – 30 Rhagfyr 2023). Fe'i ganwyd yn Sydney ond roedd wedi ei leoli yn bennaf yng ngwledydd Prydain ers 1962.Bu'n ohebydd rhyfel yn Fietnam, Cambodia, Yr Aifft, India, Bangladesh a Biafra. Roedd yn yn feirniad llym o bolisi tramor gwledydd y Gorllewin, ac yn arbennig rhai UDA. Credai fod polisiau America yn cael eu gyrru gan agenda imperialaidd.
Bu farw yn Llundain yn 84 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia
1