Zachary Pearce
Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1737 hyd 1743 ac yn ddiweddarach yn Esgob Rochester oedd Zachary Pearce (8 Medi 1690 – 29 Mehefin 1774).Ganed ef ym mhlwyf St Giles, High Holborn, Llundain. Graddiodd o Coleg y Drindod, Caergrawnt yn 1713 a bu'n Gymrawd o'r coleg 1716-1720, Bu'n cynorthwyo Isaac Newton am gyfnod.
Daeth yn ficer St Martin-in-the-Fields, Llundain, yn 1726 ac yn Ddeon Caerwynt yn 1739, cyn cael ei apwyntio'n Esgob Bangor yn 1748. Trosglwyddwyd ef i esgobaeth Rochester yn 1756. Darparwyd gan Wikipedia
1