Michael Parkinson
| dateformat = dmy}}Cyflwynydd teledu, newyddiadurwr ac awdur o Loegr oedd Syr Michael Parkinson CBE (28 Mawrth 1935 – 16 Awst 2023). Cyflwynodd ei sioe siarad teledu ''Parkinson'' o 1971 i 1982 ac o 1998 i 2007, yn ogystal â sioeau siarad eraill yn rhyngwladol. Fe’i disgrifiwyd gan ''The Guardian'' fel “y gwesteiwr sioe siarad Prydeinig gwych”.
Cafodd Parkinson ei eni ym mhentref Cudworth, ger Barnsley, Swydd Efrog. Yn fab i löwr, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Barnsley ac yn 1951 pasiodd ddwy Lefel O, mewn celf ac iaith Saesneg. Roedd yn gricedwr dros Nghlwb Criced Barnsley, gyda'i ffrind Dickie Bird.
Dechreuodd Parkinson ei yrfa fel awdur erthyglau nodwedd i'r ''Manchester Guardian'' ac yn ddiweddarach ar y ''Daily Express''. Ar ol ei ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol, derbyniodd gomisiwn fel swyddog yn y Royal Army Pay Corps. Darparwyd gan Wikipedia
1