Helen Oxenbury
Darlunydd llyfrau plant Seisnig yw Helen Gillian Oxenbury (ganed 2 Mehefin 1938). Mae'n adnabyddus am ei gwaith ar nifer helaeth o lyfrau ac am ennill nifer fawr o wobrau am ei darlunio.Magwyd Oxenbury yn Ipswich, Suffolk, Lloegr, Mae wedi mwynhau darlunio ers bu'n ifanc iawn, ac aeth ymlaen i fynychu coleg celf yn ei harddegau a gweithiodd yn Ipswich Repertory Theatre Workshop, yn cymysgu paent yn ei hamser sbar. Dechreuodd yrfa mewn theatr, ffilm a theledu. Priododd y darlunydd llyfrau plant John Burningham, a throdd hithau ei llaw at ddarlunio llyfrau plant hefyd. Mae'r pâr yn byw yng ngogledd Llundain.
Ym 1988, crëodd Oxenbury gyfres o lyfrau am fachgen bach drygionus o'r enw Tom, a'i gyfaill, tegan mwnci meddal o'r enw Pippo. Mae wedi dweud fod cymeriad Tom yn debyg iawn i gymeriad ei mab pan yr oedd ef yr oed hwnnw. Bu ei mab yn aml yn rhoi'r bai am ei ddrygioni ar y ci, yn yr un modd a byddai Tom yn rhoi'r bai ar Pippo. Mae gyrfa Oxenbury yn ymestyn dros 40 o flynyddoedd, ac mae'n dal i ddarlunio llyfreu plant hyd heddiw. Ei gwaith diweddaraf yw ''The Growing Story'' yn rhifyn Medi 2008 o gylchgrawn StoryBox a gyhoeddir gan Bayard Presse. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3