Maggie O'Farrell
| dateformat = dmy}} Nofelydd o Ogledd Iwerddon yw '''Maggie O'Farrell''', RSL (ganwyd 27 Mai 1972). Enillodd ei nofel gyntaf, ''After You'd Gone'', Wobr Betty Trask. Enillodd nofel arall, ''The Hand That First Held Mine'', Gwobr Nofel Costa 2010.Cafodd O'Farrell ei geni yn Derry, Gogledd Iwerddon. Cafodd ei magu yng Nghymru a'r Alban. Yn wyth oed cafodd ei chadw yn yr ysbyty gydag enseffalitis a chollodd dros flwyddyn o ysgol. Adleisir y digwyddiadau hyn yn ''The Distance Between Us'' ac fe’u disgrifir yn ei chofiant ''I Am, I Am, I Am'' a gyhoeddwyd yn 2017. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Gogledd Berwick ac Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont, ac yna yn New Hall, Prifysgol Caergrawnt (Coleg Murray Edwards erbyn hyn), lle astudiodd Lenyddiaeth Saesneg .
Mae O'Farrell yn briod ag awdur arall, William Sutcliff. Bu iddynt gwrdd pan oeddent yn fyfyrwyr yng Nghaergrawnt. Maen nhw'n byw yng Nghaeredin gyda'u tri o blant. Darparwyd gan Wikipedia
1
2