Michael Mosley

| dateformat = dmy}} Newyddiadurwr teledu, cynhyrchydd, cyflwynydd ac awdur o dras Brydeinig oedd Michael Hugh Mosley (22 Mawrth 1957 - 5 Mehefin 2024), a fu’n gweithio i’r BBC o 1985 hyd ei farwolaeth. Roedd e'n gyflwynydd rhaglenni teledu ar fioleg a meddygaeth ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar ''The One Show''. Roedd Mosley yn eiriolwr dros ymprydio ysbeidiol a diet carbohydrad isel, ac ysgrifennodd lyfrau sy'n hyrwyddo'r diet cetogenig. Aeth Mosley ar goll ar ynys Symi yn Ngwlad Groeg ar 5 Mehefin 2024. Ar 9 Mehefin 2024 daethpwyd o hyd i gorff wrth chwilio am Mosley, gyda'r cyfryngau lleol yn adrodd mai ei gorff ef oedd.

Cafodd Mosley ei eni yn India, yn fab i banciwr. Cafodd ei addysg yn Lloegr. Astudiodd yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Yn ddiweddarach penderfynodd ddod yn seiciatrydd. Ar ôl graddio mewn meddygaeth, dewisodd Mosley beidio â dechrau gweithio fel meddyg mewn ysbyty. Yn lle hynny, ymunodd â chynllun cynhyrchydd cynorthwyol dan hyfforddiant yn y BBC.

Roedd Dr Mosley ar wyliau gyda'i wraig yng Ngwlad Groeg pan ddiflannodd ar ôl mynd am dro ar ddiwrnod poeth iawn. Er i bobl chwilio amdano am sawl diwrnod, ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff tan 9 Mehefin. Awgrymodd post-mortem ei fod wedi marw ar yr un diwrnod ag yr aeth ar goll. Efallai ei fod wedi marw o drawiad gwres a blinder. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Mosley, Michael', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 2003
Awduron Eraill: ...Mosley, Michael...
Meddalwedd eLyfr