Julianne Moore
| dateformat = dmy}}Awdures ac actores o'r Unol Daleithiau, o dras Albanaidd, yw Julianne Moore (ganwyd 3 Rhagfyr 1960) sy'n nodedig am ei gwaith fel actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan ac awdur plant.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Boston, Ysgol Uwchradd Americanaidd Frankfurt a Choleg Prifysgol y Celfyddydau Cain Boston.
Mae hi wedi ennill nifer o ffilmiau ers dechrau'r 1990au, ac mae'n adnabyddus iawn am ei phortreadau o fenywod emosiynol gythryblus mewn ffilmiau annibynnol a ffilmiau Hollywood, ac mae wedi derbyn nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Academi a dau Golden Globes. Enwyd Moore gan y cylchgrawn ''Time'' yn un o'r 100 person mwyaf dylanwadol yn y byd yn 2015. Priododd Bart Freundlich.
Ar ôl astudio theatr ym Mhrifysgol Boston, dechreuodd Moore ei gyrfa gyda chyfres o rolau teledu. Rhwng 1985 a 1988, roedd yn rheolaidd mewn operâu sebon e.e. ''As the World Turns'', gan ennill "Gwobr Emmy yn Ystod y Dydd" (''Daytime Emmy Award'') am ei pherfformiad. Ei ffilm gyntaf oedd ''Tales from the Darkside: The Movie'', a pharhaodd i chwarae rolau bach am y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys yn y ffilm gyffrous ''The Hand That Rocks the Cradle'' (1992).
Derbyniodd Moore sylw beirniadol am y tro cyntaf yn ''Short Cuts'' (1993), gan Robert Torman', a pherfformiadau olynol yn ''Vanya on 42nd Street'' (1994) a ''Safe'' (1995). Cadarnhaodd ei rolau yn y blockbusters ''Nine Months'' (1995) a ''The Lost World: Jurassic Park'' (1997) ei lle fel seren ddisgleiriaf Hollywood. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
Cyhoeddwyd 2004
Awduron Eraill:
“...Moore, Julianne...”
Meddalwedd
eLyfr
3