Spike Milligan

Digrifwyr, actor, bardd ac awdur Prydeinig-Wyddelig oedd Terence Alan Patrick Seán "Spike" Milligan KBE (16 Ebrill 191827 Chwefror 2002).

Ganwyd Milligan yn India, ei dad yn Wyddel a'i fam yn Saesnes. Treuliodd ei blentyndod yno, cyn dychwelyd i fyw a gweithio am rhan fwyaf o'i fywyd yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oedd yn hoff o'i enw cyntaf a cychwynodd alw ei hun yn "Spike" ar ôl clywed band ar Radio Luxembourg o'r enw [Spike Jones and his City Slickers.

Roedd Milligan yn un o gyd-greawdwyr, prif ysgrifenwyr a phrif aelod cast y rhaglen radio Brydeinig arloesol a dylanwadol ''The Goon Show'', gan berfformio nifer o rannau yn cynnwys y cymeriad poblogaidd Eccles a Minnie Bannister. Ef oedd aelod hynaf o'r Goons, a'r hiraf i oroesi. Aeth Milligan o lwyddiant y Goon Show i fyd teledu gyda chyfres ''Q5'', sioe sgets swreal a gydnabyddwyd fel dylanwad pwysig ar aelodau ''Monty Python's Flying Circus''. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Milligan, Spike', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Milligan, Spike
Cyhoeddwyd 1992
Awduron Eraill: ...Milligan, Spike...
Llyfr