Iain McLean

Academydd yw'r Athro Iain McLean sydd yn athro gwleidyddiaeth yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen.

Roedd yn ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne (1971–8), yn gymrawd ac yn ''praelector'' gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen (1978–91), ac yn athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Warwick (1991–3).

Arweiniodd prosiect ym 1998–2000 i ymchwilio i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan.

Mae'r Athro McLean hefyd yn is-gadeirydd ac yn yrrwr locomotif Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'McLean, Iain', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 1996
Awduron Eraill: ...McLean, Iain...
Llyfr