Frances McDormand

| dateformat = dmy}}

Actores ffilm Americanaidd yw Frances Louise McDormand (ganwyd Cynthia Ann Smith; ganwyd 23 Mehefin 1957).

Mae McDormand wedi ennill pedair Gwobr Academi, dwy Gwobr Golden Globe Awards, tair gwobr BAFTA, dwy gwobr Emmy ac un wobr Tony.

Cafodd McDormand ei geni yn Gibson City, Illinois. Cafodd ei mabwysiadu gan Noreen (Nickelson) a Vernon McDormand a'i ailenwi'n Frances Louise McDormand. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Bethany ac ym Mhrifysgol Yale.

Mae hi wedi serennu yn nifer o ffilmiau'r Brodyr Coen, yn cynnwys ''Blood Simple'' (1984), ''Raising Arizona'' (1987), ''Fargo'' (1996), ''The Man Who Wasn't There'' (2001), ''Burn After Reading'' (2008), a ''Hail, Caesar!'' (2016). Am ei rôl fel Marge Gunderson yn ''Fargo'', enillodd y Gwobr Academi am Actores Orau mewn Rhan Arweiniol. Enillodd y Wobr eto am ''Three Billboards Outside Ebbing, Missouri'', ac eto am ei rôl yn ''Nomadland'', yn y 93fed seremoni wobrwyo yr Academi. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'McDormand, Frances, 1957-', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 2000
Awduron Eraill: ...McDormand, Frances, 1957-...
Meddalwedd eLyfr