Margaret Mahy
| dateformat = dmy}}Awdures llyfrau plant a phobl ifanc o Seland Newydd oedd Margaret Mahy (21 Mawrth 1936 - 23 Gorffennaf 2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''The Haunting'' a ''The Changeover''. Mae naws goruwchnaturiol a hyd yn oed gwyddonias i'w llyfrau, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas at ei gilydd wrth iddynt fynd drwy eu harddegau a chyfnod glasoed.
Fe'i ganed yn Whakatane ar 21 Mawrth 1936; bu farw yn Christchurch. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Canterbury, Seland Newydd a Phrifysgol Auckland.
Ysgrifennodd dros 100 o lyfrau gyda lluniau, 40 o nofelau ac 20 casgliad o straeon byrion. Pan fu farw, roedd yn un o dri-deg o awduron yn unig a oedd wedi ennill Medal Hans Christian Andersen am ei “chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant”.
Enillodd Mahy Fedal Blynyddol Carnegie gan Gymdeithas y Llyfrgelloedd, am y llyfr plant gorau'r flwyddyn gan berson o Brydain, am ei chyfrol ''The Haunting'' (1982) ac am ''The Changeover'' (1984). Yn ôl rhai, mae rhai o'i chyfrolau'n cael eu hystyried yn 'glasuron' yn Lloegr; mae'r rhain yn cynnwys ''A Lion in the Meadow'', ''The Seven Chinese Brothers'' a ''The Man Whose Mother was a Pirate''. Darparwyd gan Wikipedia
1