Ruhollah Khomeini

Gwleidydd ac arweinydd crefyddol o Iran oedd Ruhollah Mostafavi Moosavi Khomeini (Persieg: روح‌الله خمینی) , 24 Medi 19023 Mehefin 1989), a adwaenir hefyd fel Aiatola Khomeini. Ef oedd arweinydd Chwyldro Islamaidd Iran a sbardunwyd yn 1979 ac a welodd ddymchwel y Shah cyfredol sef Mohammad Reza Pahlavi. Yn dilyn y chwyldro hwn, gwnaed Khomeini yn Arweinydd Goruchel Cyntaf (''First Supreme Leader''), swydd a grëwyd oddi fewn i gyfansoddiad y wlad i fod yn bennaeth crefyddol a gwleidyddol; bu yn y swydd hon hyd at ei farwolaeth yn 1989. Wedi cymryd awenau'r wlad, aeth ati i ddifa mausoleum y 'Reza Shah' a dienyddiwyd nifer o'i wrthwynebwyr gwleidyddol a llofruddwyr, o bosib cannoedd o filoedd ohonynt.

Roedd Khomeini yn awdur dros 40 o lyfrau ond fe'i adwaenir yn bennaf fel gwleidydd. Cyn ei benodi'n Arweinydd Goruchel treuliodd dros 15 mlynedd yn alltud gan iddo anghytuno â'r Shah ar y pryd. Datblygodd syniadau Usuli oddi fewn i'w grefydd Shi'a (a alwodd yn ''velayat-e faqih'') a nododd y dylai rheolaeth o'r wlad fod yn nwylo crefyddwyr y wlad. Yn ddiweddarach cyfunwyd yr athroniaeth hon o fewn cyfansoddiad y wlad, yn dilyn refferendwm democrataidd.

Yn 1979 creodd yr Aiatola Khomeini (fel y gelwid ef) y ''Basij Mostazafan'', sef mudiad gwirfoddol o bobl ifanc (gan mwyaf). Pan ddechreuodd Rhyfel Irac ac Iran yn 1980, cyhoeddodd Khomeni 'fatwa', gyda'r addewid o baradwys a chyfunwyd y mudiad ''Basij Mostazafan'' gyda'r fyddin.

Yn 1979 fe'i enwebwyd ef gan y cylchgrawn ''TIME'' fel person mwyaf dylanwadol ei oes, yn rhyngwladol, ac fe'i disgrifiwyd fel "wyneb rhithwir Islam o fewn Diwylliant y Gorllewin"" ble erys yn gymeriad dadleuol.Er enghraifft, cefnogodd gymeryd gwystlon yn ystod argyfwng Iran ac am alw Llywodraeth yr Unol Daleithiau "Y Satan Mawr"; galwodd Rwsia "Y Satan Lleiaf" a dywedodd na ddylai Iran genogi'r naill na'r llall. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Khomeini, Ruhollah', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Khomeini, Ruhollah
Cyhoeddwyd 2010
Awduron Eraill: ...Khomeini, Ruhollah...
Llyfr
2
gan Khomeini, Ruhollah
Cyhoeddwyd 2010
Awduron Eraill: ...Khomeini, Ruhollah...
Llyfr