Lauren Kate
| dateformat = dmy}}Awdures Americanaidd yw Lauren Kate (ganwyd 21 Mawrth 1981) sy'n arbenigo mewn nofelau ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Erbyn 2019 roedd ei gwaith wedi eu cyhoeddi mewn dros 30 o ieithoedd, ac yn cynnwys y gwerthwyr gorau ''The Betrayal of Natalie Hargrove'' a ''Fallen''. Yn Ionawr 2010, cyrhaeddodd ''Fallen'' rif 3 yn y ''New York Times Best Seller List'' ar gyfer plant, ac arhosodd ar y rhestr hyd at Ebrill y flwyddyn ganlynol. Pan gyhoeddodd ''Torment'', aeth yn syth i Rif 1.
Fe'i ganed yn Dayton, Ohio, Unol Daleithiau America, a'i magu yn Dallas, Texas. Mae ganddi radd Meistr mewn ffuglen o Brifysgol California, Davis.
Priododd Kate â Jason Morphew, canwr-gyfansoddwr, yn 2009 ac mae ganddynt ddau o blant. Yn 2019 roedd y teulu'n byw yn Laurel Canyon, Los Angeles.
Yn Rhagfyr 2009 prynnodd Disney holl hawliau i ''Fallen'' - a hynny ar y diwrnod y cafodd ei ryddhau. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6