Ismail Kadare
Nofelydd, bardd, ac ysgrifwr Albaniaidd yn yr iaith Albaneg yw Ismail Kadare (ganed 28 Ionawr 1936).Ganed yn Gjirokastër, Teyrnas Albania, yn fab i weithiwr yn y swyddfa bost. Astudiodd ym Mhrifysgol Tirana a chychwynnodd ar ei yrfa lenyddol drwy gyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1958 i astudio yn Athrofa Llên Fyd Gorki ym Moscfa, a dychwelodd i Albania ym 1960 i weithio yn newyddiadurwr. Enillodd enw rhyngwladol am ei nofel gyntaf, ''Gjenerali i ushtrisë së vdekur'' ("Cadfridog y Fyddin Farw", 1963), sydd yn ymwneud â chadfridog ac offeiriaid Eidalaidd yn chwilio am gyrff milwyr a fu farw yn Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysgrifennodd sawl nofel hanesyddol, gan gynnwys ''Kështjella'' ("Y Castell", 1970), am wrthryfel Skanderbeg yn erbyn yr Otomaniaid yn y 15g, ac ''Ura me tri harqe'' ("Y Bont Deirbwa", 1978)
Ffoes Kadare i Ffrainc ym 1990. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8