Angelina Jolie
Actores ffilm o'r Unol Daleithiau yw Angelina Jolie (ganwyd Angelina Jolie Voight, 4 Mehefin 1975) a Llysgennad Ewyllys Dda Asiantaeth Ffoaduriaid yr UN. Mae wedi derbyn tair Gwobr Golden Globe, dwy wobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn, a Gwobr Academi. Mae hi wedi hyrwyddo achosion dyngarol drwy’r byd, ac mae hi’n cael ei chydnabod am ei gwaith gyda ffoaduriaid fel ‘Goodwill Ambassador’ i’r United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR). Mae hi wedi cael ei galw yn un o fenywod harddaf y byd ac fe glywn yn aml am ei bywyd personol.Er iddi ddod ar y sgrin yn gychwynol ochr yn ochr a’i thad, Jon Voight yn y ffilm 1982 ''Lookin’ to Get Pit'', fe ddechreuodd yrfa Jolie o ddifrif ddegawd yn ddiweddarach yn y cynhyrchiad ''Cyborg 2'' (1993). Ei rôl blaenllaw gyntaf mewn ffilm fawr oedd yn ''Hackers'' (1995). Serennodd yn y ffilmiau bywgraffyddol ''George Wallace'' (1997) a ''Gia'' (1998), ac fe enillodd Academy Award for Best Supporting Actress am ei pherfformiad yn y ddrama ''Girl, Interrupted'' (1999). Cafodd Jolie fwy o enwogrwydd am ei phortread o’r arwres Lara Croft yn y ffilm ''Lara Croft: Tomb Raider'' (2001), ac er hynny mae hi wedi llwyddo i ddod yn un o’r actorion enwocaf ac un o'r rhai sy’n cael ei thalu fwyaf yn Hollywood. Mae hi wedi cael ei llwyddiannau mwyaf yn y ffilm ''Mr. & Mrs. Smith'' (2005) a’r ffilm ''Kung Fu Panda'' (2008.) Darparwyd gan Wikipedia
1