Jens Peter Jacobsen

Nofelydd. awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Ddaneg a botanegydd o Ddenmarc oedd Jens Peter Jacobsen (7 Ebrill 184730 Ebrill 1885).

Ganwyd yn Thisted yng ngogledd Jylland yn fab i farsiandïwr. Astudiodd y gwyddorau naturiol ym Mhrifysgol Copenhagen. Cyfieithodd ddau brif waith Charles Darwin i'r Ddaneg: ''On the Origin of Species'' yn 1871–73 a ''The Descent of Man'' yn 1874.

Dan ddylanwad y beirniad ac ysgolhaig llenyddol Georg Brandes, un o'i ddarlithwyr yn Copenhagen, daeth Jacobsen i flaen y gad yn y mudiad Naturiolaidd yn llên Denmarc. Cyhoeddodd ei waith cyntaf, y nofel fer ''Mogens'', yn 1872. Ysgrifennodd ddwy nofel, ''Fru Marie Grubbe'' (1876) a ''Niels Lyhne'' (1880), ac un gyfrol o straeon byrion, ''Mogens og andre Noveller'' (1882).

Teithiodd i'r Eidal tua 1873 ac yno cafodd dwbercwlosis, afiechyd a fu Jacobsen yn dioddef hyd nes ei farwolaeth. Treuliodd ddeuddeng mlynedd olaf ei oes yn gweithio yn ei boen beunyddiol ac ysgrifennu'n araf iawn. Bu farw o dwbercwlosis yn Thisted yn 38 oed. Wedi ei farwolaeth, cesglid ei farddoniaeth yn y gyfrol ''Digte og udkast'' (1886). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Jacobsen, Jens Peter, 1847-1885', amser ymholiad: 0.09e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Jacobsen, Jens Peter, 1847-1885
Cyhoeddwyd 2014
Awduron Eraill: ...Jacobsen, Jens Peter, 1847-1885...
Llyfr