Siri Hustvedt

Hustvedt yng Ngŵyl LiteratureXchange, Denmarc 2019 | dateformat = dmy}}

Awdur Americanaidd yw Siri Hustvedt (ganwyd 19 Chwefror 1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, ac awdur ysgrifau.

Fe'i ganed yn Northfield, Minnesota yn Unol Daleithiau'r America a mynychodd Goleg Sant Olaf a Phrifysgol Columbia. Priododd Paul Auster ac mae Sophie Auster yn blentyn iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''The Sorrows of an American'' a ''Un été sans les hommes''.

Erbyn 2019 roedd Hustvedt yn awdur un gyfrol o farddoniaeth, saith nofel, dau lyfr o draethodau, a sawl gwaith ffeithiol. Mae ei llyfrau'n cynnwys: '' The Blindfold '' (1992), ''The Enchantment of Lily Dahl'' (1996), ''What I Loved'' (2003), y mae hi'n fwyaf adnabyddus amdano, ''A Plea for Eros''(2006), ''The Sorrows of an American'' (2008), ''The Shaking Woman or A History of My Nerves'' (2010), ''The Summer Without Men'' (2011), ''Living, Thinking, Looking'' (2012), a ''The Blazing World'' (2014). Roedd ''What I Loved'' a ''The Summer Without Men'' yn werthwyr llyfrau rhyngwladol. Cyfieithwyd ei gwaith i dros dri-deg o ieithoedd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Hustvedt, Siri', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Hustvedt, Siri
Cyhoeddwyd 1997
Awduron Eraill: ...Hustvedt, Siri...
Llyfr