Lillian Hellman
| dateformat = dmy}}Dramodydd o Unol Daleithiau America oedd Lillian Hellman (20 Mehefin 1905 - 30 Mehefin 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am sgriptio sioeau Broadway, ac fel hunangofiannydd a libretydd - yn ogystal am ei chydymdeimlad asgell chwith a'i gweithgarwch gwleidyddol. Cafodd ei beirniadu'n hallt ar ôl iddi ymddangos gerbron 'Pwyllgor y Tŷ ar gyhuddiadau o 'Weithgareddau An-Americanaidd (''House Committee on Un-American Activities'', neu HUAC) ar frig yr ymgyrchoedd gwrth-gomiwnyddol yn 1947-52. Er iddi barhau i weithio yn Broadway yn y 1950au ychydig iawn o waith a gai, gan ei bod ar y rhestr o bobl a anwybyddwyd (y ''blacklist''), a gostyngodd ei hincwm. Roedd llawer yn canmol Hellman am wrthod ateb cwestiynau gan HUAC, ond roedd eraill yn credu, er gwaethaf iddi wadu hynny, ei bod yn perthyn i'r Blaid Gomiwnyddol.
Cafodd ei geni yn New Orleans ar 20 Mehefin 1905 a bu farw yn Dukes County o drawiad ar y galon. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Efrog Newydd. Darparwyd gan Wikipedia
1