Greenpeace

Logo ''Greenpeace'' Mudiad annibynnol sy'n ymgyrchu dros gadwraeth ac amrywiaeth y Ddaear yw Greenpeace Er mwyn cyrraedd y nod hwn mae'n ymgyrchu ar nifer o feusydd amgylcheddol. Mae gan y mudiad dros 40 o swyddfeydd ar hyd a lled y byd, gan gynnwys ei phrif swyddfeydd yn Amsterdam a'r Iseldiroedd. Nodau ac amcanion Greenpeace yw: "sicrhau gallu'r ddaear i feithrin bywyd a chydoeth ei amrywiaeth.

Ymhlith y ffrynt mae'n eu hymladd y mae: *newid hinsawdd *difa fforestydd *gorbysgota *pysgota morfilod a'r * ffrynt gwrth-niwclear

Yn ogystal â gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau byd-eang, mae'r mudiad hefyd yn lobio ac yn ymchwilio. Nid yw'r mudiad yn derbyn ceiniog o nawdd gan yr un llywodraeth, cwmni na phlaid wleidyddol, er mwyn sicrhau ei hannibyniaeth. Yn 2015 roedd ganddi dros 2.9 miliwn o gefnogwyr. Rhoddwyd iddo statws ymgynghorol gan Gyngor Cymdeithasol ac Economeg y Cenhedloedd Unedig ac mae'n un o sefydlwyr Siarter Digonolrwydd Rhyngwladol Mudiadau Di-Lywodraeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Greenpeace', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau