Hugh Grant
Actor o Loegr yw Hugh John Mungo Grant (ganed 9 Medi 1960). Yn gynnar yn ei yrfa, sefydlodd ei hun fel prif actor rhamantus a swynol, ac ers hynny wedi tyfu i fod yn actor cymeriad.Mae wedi derbyn nifer o wobrau yn cynnwys Gwobr ffilm BAFTA, Gwobr Golden Globe a dau enwebiad am Wobr Primetime Emmy. Derbyniodd César er Anrhydedd yn 2006. Yn 2022, rhoddwyd Grant ar restr cylchgrawn ''Time Out'' o'r 50 actor gorau erioed o wledydd Prydain.
Gwnaeth Grant ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm nodwedd yn ''Privileged'' (1982), ac yna'r ddrama ramantus ''Maurice'' (1987). Cafodd glod am y rhan hwn yn ogystal â Chwpan Volpi am yr Actor Gorau. Yna actiodd mewn rhes o ddramâu cyfnod llwyddiannus fel ''The Remains of the Day'' (1993), ''Sense and Sensibility'' (1995) a ''Restoration'' (1995). Daeth Grant i amlygrwydd eeang gyda chomedi ramantus Richard Curtis ''Four Weddings and a Funeral'' (1994), ac enillodd Wobr Golden Globe am yr Actor Gorau mewn Ffilm Sioe Gerdd neu Gomedi a Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau. Serennodd mewn comedïau rhamantus pellach fel ''Notting Hill'' (1999), ''Bridget Jones's Diary'' (2001) a'i ddilyniannau 2004 a 2025, ''About a Boy'' (2002), ''Two Weeks Notice'' (2002), ''Love Actually'' (2003) a ''Music and Lyrics'' (2007).
Mae Grant wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod am ei wrthwynebiad tuag at y proffesiwn actio, ei ddirmyg tuag at ddiwylliant enwogion, a'i elyniaeth tuag at y cyfryngau. Daeth i'r amlwg fel beirniad amlwg o ymddygiad News Corporation Rupert Murdoch yn ystod y Sgandal hacio ffonau News International. Darparwyd gan Wikipedia
1
Cyhoeddwyd 2003
Awduron Eraill:
“...Grant, Hugh...”
Meddalwedd
eLyfr