William Ewart Gladstone

William Ewart Gladstone Gwleidydd Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon bedair gwaith (1868-1874, 1880-1885, 1886, a 1892-1894) oedd William Ewart Gladstone (29 Rhagfyr 1809 - 19 Mai 1898). Parhaodd ei yrfa fel gwleidydd am gyfnod o dros 60 mlynedd. Caiff ei gyfri'n un o Brif Weinidogion mwyaf nodedig y Deyrnas Unedig a chopiwyd rhai o'i ddulliau economaidd cynnil gan Thatcher.

William Gladstone oedd pedwerydd mab Syr John Gladstone, masnachwr o Lerpwl, a siaradodd ef gydag acen Lerpwl trwy gydol ei oes. Aeth William i Goleg Eton ac wedyn i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen i astudio'r Clasuron a Mathemateg. Roedd e am fod yn offeiriad, ond yng Nghymdeithas Trafod Undeb Rhydychen ''(Oxford Union debating society)'' gwnaeth ei enw fel areithiwr arbennig. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Gladstone, William Ewart', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau