Conrad Gesner
Athronydd naturiol a meddyg o'r Swistir oedd Conrad Gesner (26 Mawrth 1516 – 13 Rhagfyr 1565) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fotaneg a sŵoleg.Ganed yn Zürich, Cydffederasiwn y Swistir, a'r diwygiwr Protestannaidd Huldrych Zwingli oedd ei dad bedydd. Astudiodd diwinyddiaeth yn Zürich ac Hebraeg yn Strasbwrg, a meddygaeth yn Bourges, Paris, a Basel. Gweithiodd yn athro Groeg yn Ysgol Lausanne o 1537 i 1540 a derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol ym 1541. Aeth i Montpellier i astudio botaneg cyn iddo ymsefydlu yn Basel i weithio yn feddyg.
Teithiodd i ddysgu mwy am blanhigion ac anifeiliaid, a chesglir ei arsylwadau am fyd natur a'i ddarluniau, yn ogystal â gwybodaeth a ddanfonwyd ato gan ysgolheigion eraill, yn y gwyddoniadur ''Historia animalium'' (1551–58). Yn y gwaith hwn fe heriai astudiaethau'r naturiaethwyr hynafol, Aristoteles yn enwedig. Er i Gesner wfftio bodolaeth creaduriaid chwedlonol megis cewri a seirenau, mae ei wyddoniadur yn cynnwys disgrifiadau o "bysgod-ddyn". Darparwyd gan Wikipedia
1