John Ford
Dramodydd o Loegr oedd John Ford (1586 – tua 1639) a flodeuai yn oes theatr Iago a Siarl.Ganed i deulu bonheddig yn Nyfnaint a fe'i bedyddiwyd ar 17 Ebrill 1586 yn Ilsington. Cafodd ei dderbyn i'r Deml Ganol ym 1602, ac mae'n debyg iddo aros yno am gyfnod hir, ac eithrio ei waharddiad dros dro o 1606 i 1608. Cyn iddo ymwneud â'r theatr, ysgrifennodd sawl gwaith gan gynnwys galargerdd er cof am Charles Blount, Iarll 1af Dyfnaint, a phamffled rhyddiaith ym 1606.
Cydweithiodd gydag eraill ar o leiaf pum drama rhwng 1620 a 1626, gan ddechrau gyda ''The Laws of Candy'' (1620) gyda Philip Massinger. Cyd-ysgrifennodd ''The Witch of Edmonton'' (1621) gyda William Rowley a Thomas Dekker; ''The Spanish Gypsy'' (1623) gyda Thomas Middleton, Rowley a Dekker; ''The Fair Maid of the Inn'' (1626) gyda John Fletcher; a ''The Sun's Darling'' (1624) gyda Dekker. Credir iddo hefyd gyd-ysgrifennu tair drama goll, ac o bosib ''The Welsh Ambassador'' (1623), gyda Dekker, ac mae'n bosib iddo gyfrannu at ddramâu eraill yng nghanon Francis Beaumont a John Fletcher hefyd.
Wedi 1627, mae'n debyg i Ford weithio ar ben ei hunan ar gyfer theatrau preifat, ac wyth drama ganddo sydd yn goroesi: ''The Queen'' (1627), ''The Lover's Melancholy'' (1628), ''The Broken Heart'' (1629), '''Tis Pity She's a Whore'' (1631), ''Love's Sacrifice'' (1632), ''Perkin Warbeck'' (1633), ''The Fancies Chaste and Noble'' (1636), a ''The Lady's Trial'' (1639). Maent yn ymwneud yn bennaf â dewrder a dyfalbarhad, a themâu cyffredin yw'r pruddglwyf, artaith, llosgach, a rhithdyb. Nid oes tystiolaeth o'i fywyd nac ei waith wedi 1639, a chredir iddo farw tua'r cyfnod hwn. Darparwyd gan Wikipedia
1