Francesco Filelfo

Ysgolhaig a bardd o'r Eidal a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Francesco Filelfo (13981481) sydd yn nodedig am gasglu llawysgrifau Groeg clasurol.

Ganed ef yn Tolentino yng Ngororau Ancona, yng nghanolbarth yr Eidal, a oedd ar y pryd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Astudiodd y gyfraith a rhethreg ym Mhrifysgol Padova, a bu'n athro yno am gyfnod. Teithiodd i Gaergystennin ym 1420 i berffeithio'i grap ar yr iaith Roeg. Treuliodd saith mlynedd yng Nghaergystennin yn astudio Groeg dan yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras, a phriododd â Theodora, merch Chrysoloras. Dychwelodd Filelfo i Fenis ym 1427 gyda'i theulu a helfa fawr o destunau Groeg.

Penodwyd Filelfo yn athro rhethreg ac athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Bologna ym 1428. Symudodd i Brifysgol Fflorens ym 1429, a denodd nifer fawr o wrandawyr i'r ddarlithoedd ar awduron Groeg, gan gynnwys dinasyddion amlwg megis Cosimo de’ Medici, Palla Strozzi, a Leonardo Bruni. Collodd ffafr Cosimo ym 1431, ac ym 1433 bu ymdrech i'w ladd. Pan ddychwelodd y Medici i rym ym 1434, ffoes Filelfo o Fflorens. Addysgodd yn Siena o 1435 i 1438 ac yno goroesodd Filelfo gais arall i'w lofruddio.

Ym 1439 cafodd Filelfo ei benodi yn bardd llys i Ddug Milan ac yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Padova. Am weddill ei oes, bu dan nawddogaeth y Visconti a'r Sforza, dugiaid Milan. Cyfieithodd sawl testun Groeg i Ladin, ac ysgrifennodd y dychangerddi Horasaidd ''Satyrae'', ymgomion, arwrgerdd yn arddull Fyrsil o'r enw ''Sforziad'', sawl casgliad o lythyron a cherddi, a thraethawd ar bwnc athroniaeth foesol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Filelfo, Francesco, 1398-1481', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau