Albert Einstein

Ffisegydd damcaniaethol a anwyd yn yr Almaen oedd Albert Einstein (14 Mawrth 1879 – 18 Ebrill 1955) (). Einstein yw un o brif wyddonwyr y byd ac ef yw awdur y damcaniaethau: Perthnasedd cyffredinol a Pherthnasedd arbennig. Cafodd ei waith ddylanwad enfawr ar athroniaeth gwyddoniaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei hafaliad (a ddisgrifiwyd fel "hafaliad enwoca'r byd"). Yn 1921 derbyniodd Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei "wasanaeth i Ffiseg ddamcaniaethol", yn enwedig am ei ddarganfyddiad 'yr effaith ffotodrydanol' (''photoelectric effect'') a oedd yn garreg filltir yn esblygiad ei ddamcaniaeth cwantwm.

Ganwyd Einstein yn Ulm, Teyrnas Württemberg, yr Almaen a bu farw yn Princeton, New Jersey yn yr Unol Daleithiau.

O gychwyn ei yrfa mewn ffiseg, credodd Einstein fod 'mecaneg Newton' yn annigonol i brofi mecaneg glasurol parthed y maes electromagnetig, ac ymaflodd yn y gewaith o ddatblygu 'Damcaniaeth perthnasedd arbennig' ond cyn hir sylweddolodd y gall damcaniaeth perthnasedd hefyd gael ei ymestyn i feysydd disgyrchiant. Datblygodd hyn oll, gan gyhoeddi papur yn 1916 ac yna ei waith ar berthnasedd cyffredinol. Datblygodd hefyd ei syniadau ar fecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a chyhoeddodd ei syniadau ar ddamcaniaeth gronynnau a moleciwlau symudiad (''Brownian motion''). Ymchwiliodd i briodweddau tymheredd golau, a ffurfiodd y syniadau hyn gongl-faen ei theori o ffotonau golau.

Yn 1917 cymhwysodd ei ddamcaniaeth perthynasedd cyffredinol i strwythurau enfawr y bydysawd.

Pan ddaeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen yn 1933 roedd Einstein yn teithio Unol Daleithiau America; gan ei fod yn Iddew nid aeth yn ôl i'r Almaen, ble roedd yn Athro Prifysgol yn Academi Gwyddoniaethau Berlin. Ymgartrefodd yno gan ddod yn ddinesydd o UDA. Rhybuddiodd yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt o'r posibilrwydd o "ddatblygu bom pwerus iawn" gan annog ymchwil i hynny. Ychydig wedi hyn lansiwyd "The Manhattan Project". Roedd Einstein o'r farn y dylid amddiffyn 'y Cynghreiriaid' ond ciliodd oddi wrth y syniad o ddefnyddio ei ddarganfyddiad newydd (Ymholltiad niwclear) fel arf. Yn ddiweddarach, gyda Bertrand Russell, arwyddodd faniffesto (''Russell–Einstein Manifesto'') a oedd yn cadarnhau peryglon arfau niwclear.

Ym 1905, blwyddyn a ddisgrifir weithiau fel ei ''annus mirabilis'' ('blwyddyn y wyrth'), cyhoeddodd Einstein bedwar papur arloesol. Roedd y rhain yn amlinellu damcaniaeth yr effaith ffotodrydanol, yn esbonio'r mudiant Brownian, yn cyflwyno perthnasedd arbennig, ac yn dangos cywerthedd màs-ynni. Credai Einstein na ellid cysoni deddfau mecaneg glasurol bellach â deddfau'r maes electromagnetig, a arweiniodd ato i ddatblygu ei ddamcaniaeth arbennig o berthnasedd. Yna ymestynnodd y ddamcaniaeth i feysydd disgyrchiant; cyhoeddodd bapur ar berthnasedd cyffredinol yn 1916, yn cyflwyno ei ddamcaniaeth disgyrchiant. Ym 1917, cymhwysodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd i fodelu strwythur y bydysawd. Parhaodd i ddelio â phroblemau mecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a arweiniodd at ei esboniadau o ddamcaniaeth gronynnau a mudiant moleciwlau. Ymchwiliodd hefyd i briodweddau thermol golau a damcaniaeth cwantwm ymbelydredd, a osododd sylfaen damcaniaeth ffotonau golau.

Ganed Einstein yn Ymerodraeth yr Almaen, ond symudodd i'r Swistir yn 1895, gan gefnu ar ei ddinasyddiaeth Almaenig (fel dinesydd Teyrnas Württemberg) y flwyddyn ganlynol. Ym 1897, yn 17 oed, cofrestrodd ar y rhaglen diploma addysgu mathemateg a ffiseg yn ysgol polytechnig Ffederal y Swistir yn Zürich, gan raddio yno yn 1900. Yn 1901, cafodd ddinasyddiaeth Swisaidd, a gadwodd weddill ei oes, ac yn 1903 cafodd swydd barhaol yn Swyddfa Batentau'r Swistir yn Bern. Yn 1905 dyfarnwyd PhD iddo gan Brifysgol Zurich. Ym 1914, symudodd Einstein i Berlin er mwyn ymuno ag Academi Gwyddorau Prwsia a Phrifysgol Humboldt Berlin. Yn 1917, daeth Einstein yn gyfarwyddwr Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm; daeth hefyd yn ddinesydd Almaenig eto, Prwsia y tro hwn. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8 ar gyfer chwilio 'Einstein, Albert, 1879-1955', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Einstein, Albert, 1879-1955
Cyhoeddwyd 1951
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
3
gan Einstein, Albert, 1879-1955
Cyhoeddwyd 1982
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
4
gan Einstein, Albert, 1879-1955
Cyhoeddwyd 1950
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
5
gan Einstein, Albert, 1879-1955
Cyhoeddwyd 1995
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
6
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
7
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr
8
Awduron Eraill: ...Einstein, Albert, 1879-1955...
Llyfr