Barbara Ehrenreich
Awdur a newyddiadurwraig o'r Unol Daleithiau oedd Barbara Ehrenreich (ganwyd Barbara Alexander, 26 Awst 1941 – 1 Medi 2022).Ganed Barbara Alexander yn Butte, Montana, i deulu dosbarth gweithiol. Derbyniodd ei gradd baglor o Goleg Reed yn Portland, Oregon, ym 1963 a'i doethuriaeth mewn bioleg cell o Brifysgol Rockefeller yn Efrog Newydd ym 1968. Gweithiodd yn ddadansoddwr cyllideb, yn aelod o'r Ganolfan Cynghori Polisi Iechyd, ac yn isddarlithydd i Raglen y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Old Westbury. Ymddiswyddodd o'r byd academaidd ym 1974 i fod yn awdur llawn amser.
Thema sy'n rhedeg trwy ei hysgrifiadau yw mai chwedl ddifrifol yw'r freuddwyd Americanaidd. Mae pynciau nodweddiadol ei hysgrifau a'i llyfrau yn cynnwys y farchnad lafur, gofal iechyd, tlodi, a sefyllfa menywod.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2018. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Ehrenreich, Barbara 1941-
Cyhoeddwyd 2002
Awduron Eraill:
“...Ehrenreich, Barbara 1941-...”Cyhoeddwyd 2002
Llyfr