Umberto Eco
Semiotegydd, athronydd, beirniad llenyddol, nofelydd, ac ysgolhaig o Eidalwr oedd Umberto Eco (5 Ionawr 1932 - 19 Chwefror 2016). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei nofel ddirgelwch hanesyddol ''Il nome della rosa'' (''The Name of the Rose'' yn Saesneg, ''Enw'r Rhosyn'' yn Gymraeg) a gyhoeddwyd yn 1980, dirgelwch ddeallusol yn cyfuno semioteg mewn ffuglen, dadansoddiad beiblaidd, astudiaethau canolesol a theori lenyddol. Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o nofelau eraill, yn cynnwys ''Il pendolo di Foucault'' (''Foucault's Pendulum'') a ''L'isola del giorno prima'' (''The Island of the Day Before''). Ryddhawyd ei nofel ''Il cimitero di Praga'' (''Mynwent Prag''), yn 2010.Fe'i ganwyd yn Alessandria, Piedmont, yn fab i Giulio a Giovanna. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20