Carol Ann Duffy
Bardd, dramodydd, llenor a golygydd o'r Alban yw Carol Ann Duffy, CBE, FRSL (ganed 23 Rhagfyr 1955, Glasgow), sydd yn Fardd Llawryfog (bardd a apwyntir gan frenhines Lloegr) y DU ar hyn o bryd. Hi yw cyfarwyddwr creadigol ysgol ysgrifennu Prifysgol Fetropolitanaidd Manceinion. Derbyniodd OBE ym 1995 a CBE yn 2002.Dilynodd Duffy Andrew Motion fel Bardd Llawryfog ar y 1af o Fai 2009. Hi yw'r fenyw gyntaf, y person cyntaf o'r Alban a'r person agored hoyw cyntaf i gael y swydd. Darparwyd gan Wikipedia
1