Marcel Duchamp
Arlunydd, cerflunydd, llenor a chwaraewr gwyddbwyll o Ffrainc a'r Unol Daleithiau oedd Marcel Duchamp (28 Gorffennaf 1887 – 2 Hydref 1968). Un o arloeswyr pwysicaf celfyddyd fodern hanner cyntaf yr 20g, yn gysylltiedig gyda Dada, Dyfodoliaeth (Futurism), Swrealaeth a Chelf Ddamcaniaethol (conceptual art).Gyda Pablo Picasso ac Henri Matisse mae Duchamp yn cael ei gyfrif fel un o'r tri artist arloesol a ddiffiniodd y newidiadau chwyldroadol yn y byd celf yn ystod degawdau cyntaf yr 20g.
Er dim mor enwog â Picasso, bu gwaith arloesol Duchamp yn hynod o bwysig i gelfyddyd avant garde. Gwrthododd Duchamp waith Matisse a llawer o arlunwyr eraill fel rhywbeth a oedd ond ar gyfer y llygaid yn lle'r meddwl. Darparwyd gan Wikipedia
1
Awduron Eraill:
“...Duchamp, Marcel, 1887-1968...”
Llyfr