Joan Didion
| dateformat = dmy}}Awdures o Americanes oedd Joan Didion (ganwyd 5 Rhagfyr 1934 – 23 Rhagfyr 2021) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd, newyddiadurwr ac awdur ysgrifau. Cafodd ei geni yn Sacramento, California.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley. Priododd John Gregory Dunne. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Slouching Towards Bethlehem, Play It as It Lays'' a ''The Year of Magical Thinking''.
Yn ei nofelau a'i thraethodau, mae Didion yn disgrifio datgymhwysiad moesau America ac anhrefn diwylliannol y wlad; prif thema ei gwaith yw darnio'r unigol a'r gymdeithas. Ar frig ei gyrfa, cydnabuwyd fod i'w hysgrifennu gryn arwyddocâd wrth ddiffinio isddiwylliannau America. Ym 1968, cyfeiriodd ''The New York Times'' at ei gwaith cynnar gan ddweud ei fod yn cynnwys "gras, soffistigeiddrwydd, naws ac eironi."
Bu farw o Glefyd Parkinson yn ei chartref yn Manhattan yn 87 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia
1