Catherine Deneuve

Actores o Ffrainc yw Catherine Deneuve (Catherine Fabienne Dorléac; ganed 22 Hydref 1943). Cafodd ei geni ym Mharis yn ferch i'r actorion Maurice Dorléac (1901–1979) a Renée Simonot (1911–2021). Mae dwy chwaer gyda hi: y diweddar actores Françoise Dorléac (1942–1967) a Sylvie Dorléac (ganwyd 1946).

Priododd y ffotograffydd o Loegr David Bailey ym 1965. Fe wnaethant wahanu ym 1967 ac ysgaru ym 1972. Mae gan Deneuve ddau o blant: yr actor Christian Vadim (ganwyd 1963), o’i pherthynas â'r cyfarwyddwr ffilm Roger Vadim, a'r actores Chiara Mastroianni (ganwyd 1972). Tad Chiara oedd yr actor o Eidalwr Marcello Mastroianni. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Deneuve, Catherine, 1943-', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 1992
Awduron Eraill: ...Deneuve, Catherine, 1943-...
Meddalwedd eLyfr