Guy Debord
Athronydd Marcsaidd a gwneuthurwr ffilmiau o Ffrainc oedd Guy Debord (28 Rhagfyr 1931 – 30 Tachwedd 1994).Ganed ym Mharis, ac yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar ag artistiaid a deallusion adain-chwith y ddinas. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf, ''Hurlements en faveur de Sade'', yn 1952.
Gweithiodd gyda Isidor Isou a Maurice Lamaitre, aelodau'r cymundod artistig L'Internationale lettriste, i wneud celf arbrofol a elwir "gwrth-gelf" a chanddi ei gwreiddiau ym mudiadau Dada a Swrealaeth.
Ysgrifennodd nifer o erthyglau a golygodd sawl rhifyn o gylchgawn L'Internationale Situationniste. Cyhoeddodd ei gampwaith, ''La société du spectacle'', yn 1967.
Tynnodd ar syniadaeth yr ''avant-garde'' ac astudiaethau pensaernïaeth, y sinema, a chynllunio tref yn ogystal â damcaniaeth Marx yn ei ymdriniaeth o'r "sbectacl" fel amlygiad o ymddieithriad a thrin profiad y ddynolryw yn gynwydd. Cyhoeddodd ddilyniant i'r gwaith hwnnw, ''Commentaires sur la société du spectacle'', yn 1988.
Bu farw trwy hunanladdiad yn 62 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1